Baner Seland Newydd
Mae daeargryn yn mesur 6.9 ar raddfa Richter wedi taro Seland Newydd.
Yn ôl arbenigwyr, digwyddodd y daeargryn chwe milltir o dan y môr yng Nghulfor Cook sydd rhyw 35 milltir i’r de-orllewin o Wellington, prifddinas Seland Newydd.
Roedd effaith y daeargryn i’w deimlo hefyd cannoedd o filltiroedd i ffwrdd ar Ynys y Gogledd.
Yn ôl heddlu Wellington mae ffenestri wedi malu, pibelli dwr wedi rhwygo a gwifrau wedi syrthio mewn rhai ardaloedd o’r brifddinas.
Does dim sôn bod unrhyw un wedi cael ei anafu.
Mae Seland Newydd yn rhan o “Gylch Tanllyd” y Môr Tawel ble mae daeargrynau yn digwydd yn aml.
Fe wnaeth daeargryn yn Christchurch yn 2011 ladd 185 o bobl a dinistrio sawl rhan o ganol y ddinas.