Protest dros Trayvon Martin (llun PA)
Mae miloedd o bobl wedi bod yn gorymdeithio mewn dros gant o ddinasoedd yn America i alw am gyhuddo George Zimmerman o dorri cyfreithiau hawliau sifil.

Cafwyd Zimmerman yn ddi-euog o ladd y llanc ifanc croenddu Trayvon Martin mewn achos yn Fflorida yn gynharach yr wythnos yma.

Y Rhwydwaith dros Weithredu Cenedlaethol sydd wedi trefnu’r raliau y tu allan i adeiladau ffederal mewn dinasoedd yn cynnwys Efrog Newydd, Kansas a Birmingham yn Alabama.

Mae trefnydd y rhwydwaith, y parchedig Al Sharpton eisiau i’r Adran Cyfiawnder ddod ag achos yn erbyn Zimmerman sydd o dras Hispanaidd.

Galwad

Yn gynharach fe wnaeth yr Arlywydd Obama araith bersonol emosiynol yn galw ar Americanwyr i ddwys ystyried beth ddigwyddodd i Trayvon, laddwyd tra roedd yn cerdded o siop i gymuned gauedig ble roedd George Zimmerman yn byw ac yntau yn aros.

Doedd Trayvon ddim yn arfog ond fe wnaeth Zimmerman ei saethu a’i ladd am ei fod yn amau ei fod yn ymddwyn yn amheus.

Dywedodd yr Arlywydd Obama bod y gymuned African-Americanaidd yn gweld yr hyn ddigwyddodd i Trayvon “trwy brofiadau a hanes sydd ddim am ddiflannu”.