'Madiba' yn 95 oed heddiw
Wrth i gyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela ddathlu ei ben-blwydd yn 95 oed heddiw, mae ei ferch wedi dweud y gallai ddychwelyd adref o’r ysbyty yn y dyfodol agos.
Bu ‘Madiba’ yn yr ysbyty ers Mehefin 8 yn dioddef o haint ar ei ysgyfaint.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dywedodd adroddiadau ei fod yn agos at farwolaeth, ac fe rybuddiodd ei gyfeillion y dylai’r genedl a’r byd baratoi ar gyfer hynny.
Ond bellach, mae e’n ymateb i leisiau pobol o’i gwmpas ac yn cyfathrebu trwy godi ei law a gwenu, yn ôl ei ferch Zinzi.
Ychwanegodd fod ei thad yn cryfhau a bod ganddo fwy o egni erbyn hyn.
Yn ôl adroddiadau i lys yn Ne Affrica fis diwethaf, roedd Nelson Mandela ar beiriant cynnal bywyd ac yn methu anadlu drosto’i hun yn yr ysbyty yn Pretoria.
Y neges gan yr ysbyty trwy gydol mis Mehefin oedd ei fod e mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, ond mae meddygon bellach yn dweud bod ei gyflwr yn gwella.
Paratoi i ddathlu
Ar achlysur ei ben-blwydd, mae trigolion De Affrica yn paratoi i ddathlu’r diwrnod.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama a’i wraig Michelle wedi dymuno’n dda iddo, gan ddweud y byddai’r byd yn nodi’r achlysur trwy ddilyn ei esiampl.
Treuliodd Nelson Mandela 18 o flynyddoedd dan glo mewn carchar ar Ynys Robben am gymryd rhan mewn gweithgarwch yn erbyn apartheid, a naw mlynedd mewn carchar arall.
Ymwelodd Obama a’i deulu â’r carchar ar ymweliad diweddar â’r wlad.
Mae nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol wedi’u trefnu ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Nelson Mandela heddiw.
Mae cwmni yn Johannesburg wedi gofyn i bobol roi 67 o funudau o’u hamser i wirfoddoli heddiw, munud am bob blwyddyn y treuliodd Nelson Mandela mewn swyddi cyhoeddus.
Daeth yn Arlywydd ei wlad yn 1994, oedd yn benllanw ar ei yrfa wleidyddol, y tro cyntaf i ddyn du dderbyn y swydd.
Fe fydd Arlywydd presennol y wlad, Jacob Zuma yn ymweld â phrosiect sy’n rhoi tai i bobol dlawd yn ardal Pretoria.
Fe fydd digwyddiad i annog pobol i roi bwyd i elusennau’n cael ei gynnal yn Cape Town.
Mae nifer o baentiadau a 95 o bosteri wedi cael eu comisiynu i ddathlu’r achlysur.
Fe fydd un o’r posteri’n cael ei werthu mewn ocsiwn i godi ariant at ysbyty i blant fydd yn cael ei enwi ar ôl Nelson Mandela.
Dywedodd un o’r artistiaid, Paul Blomkamp fod egni Nelson Mandela yn rhagorol.