Kayleigh Buckley, 17, a'i merch Kimberley
Fe fydd y rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio tair cenhedlaeth o’r un teulu yn parhau i ystyried ei ddyfarniad heddiw.

Roedd y rheithgor wedi dechrau ystyried ei ddyfarniad prynhawn ddoe.

Bu farw Kayleigh Buckley, 17, ei merch chwe mis oed, Kimberley a mam Kayleigh,  Kim, 46 mewn tân yn eu cartref yng Nghwmbrân.

Mae Carl Mills, 28 oed, yn gwadu llofruddio’r teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân ar Fedi 18 y llynedd.

Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd fod cymdogion Kayleigh Buckley wedi ceisio achub y teulu wrth i’r tân, a gychwynnodd yn y cyntedd, ymledu i fyny’r grisiau gan atal y teulu rhag dianc.

Fe glywodd y llys fod Carl Mills, a oedd yn dad i Kimberley ac yn byw mewn pabell o flaen y tŷ, yn genfigennus o’r sylw roedd Kayleigh Buckley yn rhoi i’w merch. Roedd wedi bygwth llosgi’r tŷ i’r llawr mewn negeseuon testun at Kayleigh Buckley.

Mae Carl Mills yn gwadu’r llofruddiaethau, gan honni ei fod yn yfed mewn cae cyfagos pan ddechreuodd y tân a’i fod yn caru Kayleigh ac yn bwriadu cael dyfodol gyda hi a’u merch Kimberley.

Mae’r barnwr wedi dweud y bydd yn ystyried dyfarniad o ddynladdiad.