Merfyn Jones, cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Mae disgwyl i gyn-benaethiaid Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr roi tystiolaeth i aelodau’r Cynulliad heddiw fel rhan o ymchwiliad i gam-reoli’r bwrdd.

Yn dilyn adroddiad beirniadol am reolaeth  y bwrdd iechyd, ymddiswyddodd y cadeirydd Merfyn Jones a’r prif weithredwr Marry Burrows.

Dywedodd yr adroddiad y gallai methiannau’r bwrdd fod wedi peryglu diogelwch cleifion yn ysbytai’r bwrdd.

Mae’r bwrdd hefyd yn wynebu’r hyn y mae’r adroddiad yn ei alw’n “her ariannol sylweddol”.

Dywedodd Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts mai hwn oedd yr adroddiad gwaethaf iddo’i weld ers chwarter canrif.

Ymhlith y gwendidau eraill roedd:

–          Pryderon am strwythurau rheolaeth ac arweinyddiaeth glinigol

–          Diffyg strwythur i allu adnabod problemau a allai godi o fewn y bwrdd

–          Diffyg dal penaethiaid i gyfrif am benderfyniadau clinigol

–          Diffyg dealltwriaeth staff o sut i godi materion a phryderon gyda phenaethiaid

–          Trosiant staff ac absenoldebau salwch

–          Diffyg prydlondeb wrth gyhoeddi adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd

–          Diffyg rhaglen gofal clinigol aciwt

Cafodd yr adroddiad ei lunio gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Cafodd dulliau’r bwrdd iechyd o ymdrin â heintiau C Difficile ac eraill ar wardiau’r ysbytai, gan gynnwys Ysbyty Glan Clwyd, eu beirniadu.

Oherwydd yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg perthynas waith rhwng y penaethiaid a’r wardiau, dywedodd Merfyn Jones ei bod hi’n “briodol o dan yr amgylchiadau” iddo ymddiswyddo.

Ychydig ar ôl i Merfyn Jones a Mary Burrows ymddiswyddo, ymddiswyddodd yr is-Gadeirydd Lyndon Miles.

Bydd Merfyn Jones a Mary Burrows yn cael eu holi heddiw am yr hyn ddigwyddodd cyn iddyn nhw ymddiswyddo.