Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cytundeb gwerth £1.2 biliwn ar gyfer trenau a fydd yn gallu teithio ar gyflymder o 140mya.

Fe fydd cyfanswm o 270 o gerbydau yn cael eu cynhyrchu ym Mhrydain gan Hitachi Rail Europe yn ei ffatri newydd yn Newton Aycliffe, yn Sir Durham. Mae’r trenau’n rhan o gynllun £5.8bn Intercity Express y Llywodraeth i leihau amseroedd teithio ar rai o’r prif wasanaethau.

Fe fydd y trenau’n cael eu defnyddio o 2019 ymlaen.