Ysgol Pwll Coch yn Nhreganna
Fe fydd cyfarfod brys yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd heno i drafod cynlluniau’r Cyngor i wneud trefniant dros dro Ysgol Pwll Coch yn barhaol.
Ddechrau’r flwyddyn, penderfynodd y Cyngor y bydden nhw’n adeiladu ysgol gynradd newydd yn Grangetown er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am leoedd ffrwd Gymraeg.
Ond bellach, dywed y Cyngor eu bod nhw’n awyddus i’r ysgol barhau ar safle dros dro a’u bod nhw’n cynnal ymgynghoriad i drafod y cynlluniau.
Mae’r safle gwreiddiol a gafodd ei ystyried ar gyfer ysgol Gymraeg newydd bellach yn cael ei ystyried ar gyfer ysgol Saesneg newydd.
Dywed mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) nad yw penderfyniad y Cyngor yn dderbyniol ac maen nhw’n cynnal cyfarfod brys ar y mater.
Mae nifer sylweddol o rieni’r ysgol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau yn ystod arolwg.
‘Sinigaidd’
Wrth ymateb i gynlluniau’r cyngor, dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru, Neil McEvoy: “Mae’r symudiad sinigaidd hwn gan y Cyngor yn sioc i bawb.
“Pan oedden ni’n rhedeg y Cyngor tan 2012 fe wnaethon ni nodi’r safle, cael caniatâd Llywodraeth Cymru, a sicrhau’r cyllid.
“Roedd hyn wedi ei setlo, ac yn awr mae’r weinyddiaeth Lafur newydd yn ceisio troi’r cloc yn ôl.
“Mae’r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu’n ddramatig, ond mae llefydd gwag mewn llawer o ysgolion cyfrwng Saesneg. Wnawn ni ddim derbyn sefyllfa lle mae plant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu gwasgu i ystafelloedd dosbarth.
“Mae angen i’r Cyngor gadw at y cynllun gwreiddiol i godi’r ysgol Gymraeg. Byddai unrhyw beth llai yn gwneud tro gwael a’r rheini a’u plant”.
‘Torri addewid’
Neithiwr, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod y Cyngor wedi “torri eu haddewid”.
Mewn datganiad, dywedodd: “Alla i ddim credu y byddai’r Cyngor yn torri eu haddewid i godi’r ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown.
“Mae’r cynllun eisoes wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac felly bydd ceisio codi ysgol cyfrwng Saesneg newydd yn golygu gorfod mynd yn ôl at Lywodraeth Cymru i gael caniatâd.
“Bydd ein Haelodau Cynulliad yn gwneud popeth yn eu gallu i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd yr ysgol Gymraeg yn cael ei hadeiladu.
“Mae angen i Gyngor Caerdydd gymryd eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg o ddifrif. Ond yn anad dim, mae’n rhaid iddynt wrando ar yr hyn mae rhieni yn ddweud wrthynt fel y gall pob rhiant yng Nghaerdydd sydd eisiau i’w blentyn gael addysg Gymraeg allu gwneud hynny.”
Dywedodd Michael Jones ar ran RhAG Caerdydd: “Mae hwn yn gyhoeddiad cwbl syfrdanol ac yn codi cwestiynau sylfaenol am ymrwymiad Cyngor Caerdydd i Addysg Gymraeg.
“Bu RhAG yn feirniadol o’r Cyngor nôl ym mis Ebrill pan awgrymwyd na fyddai’r ysgol newydd yn agor yn unol â’r amserlen wreiddiol, sef 2015, a’r cynnig gafwyd i sefydlu trydedd ffrwd dros dro ym Mhwll Coch tan o leiaf 2016.
“Mae’n gwbl annealladwy fod y Cyngor nawr nid yn unig am droi cefn ar y cynllun gwreiddiol ond yn bwriadu defnyddio’r safle ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd.
“Dengys patrymau twf diweddar yn y galw am Addysg Gymraeg yn yr ardal, fod angen dybryd am fwy o leoedd.
“Gwyddom bydd y ddwy ysgol sy’n gwasanaethu ardaloedd Treganna a Threlluest yn orlawn erbyn 2015.
“Mae cyfanswm y plant sydd wedi gwneud cais am le yn y ddwy ysgol ar gyfer Medi 2013 yn 154, sef dros 5 ffrwd ac yn gynnydd o 7 uwchben cyfanswm y llynedd, nid y cwymp i 136 disgybl, sef yr hyn roedd y sir yn ddarogan.
“Mae’r twf blynyddol yn gyson oddeutu 10%.
“Er hynny, mae’r cyngor yn parhau i lynu at yr hen ffigyrau nad ydynt yn adlewyrchu gwir dwf y dyfodol a rhain yn frith trwy’r ddogfen.
Ychwanegodd Swyddog Datblygu RhAG, Ceri Owen: “Mae’r sir wedi cadarnhau’n gyhoeddus ar sawl achlysur iddynt dderbyn caniatâd y Gweinidog i agor ysgol newydd ar gyfer Grangetown er mwyn derbyn y twf yn y galw a ddisgwylwyd yn yr ardal.
“Caiff eu bwriad ei gynnwys hefyd yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir, sydd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Llywodraeth ac a fydd o fis Ionawr nesaf ymlaen ar sail statudol.
“Ategwyd hynny ymhellach mewn llythyr anfonwyd at RhAG ar Ebrill 9fed gan y Cyng. Julia Magill, Deilydd Portffolio Addysg Caerdydd, pan ddywedodd fod yr ysgol newydd yn parhau i fod yn rhan o gynlluniau’r Cyngor.
“Gwelwn yn awr mai geiriau gwag oedd rhain. Mae’n gwbl amlwg bellach mai polisi’r Cyngor o safbwynt Addysg Gymraeg yw canoli’r ddarpariaeth a’u bod yn cefnu ar y weledigaeth o ddarparu ‘ysgolion lleol i blant lleol’ ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno dewis Addysg Gymraeg.
“Mynnwn wybod hefyd sut mae’r cynnig hwn yn cydfynd ag amcanion a thargedau cenedlaethol y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
“Galwn felly ar Julia Magill i egluro pam ei bod wedi bradychu Addysg Gymraeg yn yr ardal hon ac ar y Cabinet i wyrdroi’r penderfyniad cywilyddus hwn ar unwaith.”
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Swyddog Maes y De Cymdeithas yr Iaith, Euros ap Hywel: “Ymddengys fod y Cyngor yn edrych i fynd am y dewis rhataf, gan esgeuluso’r angen clir sydd yn bodoli am addysg Gymraeg.
“Mae’r Cyngor yn rhoi addysg gyfrwng Saesneg o flaen addysg Gymraeg unwaith eto.
“Nid yw’n dderbynniol bod Cyngor Caerdydd hyd yn oed yn ystyried gwneud hyn.
“Bydd y Gymdeithas yn cydweithio gyda mudiadau eraill sydd o’r un safbwynt er mwyn rhoi pwysau ar y cyngor, a sicrhau na wnant gamgymeriad mawr.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Caerdydd.