Mae miloedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi wrth i dân ledu yn y mynyddoedd yng Nghaliffornia.

Bu’n rhaid i 6,000 o drigolion ac ymwelwyr adael 2,200 o gartrefi, yn ôl Gwasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau.

Mae gwyntoedd wedi newid cyfeiriad gan achosi i’r tân ledu o’r coedwigoedd tuag at gymunedau cyfagos, meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Coedwigoedd.

Mae disgwyl amodau cynnes a sych dros y ddau ddiwrnod nesaf, meddai, gan gynyddu’r risg y bydd y tân yn lledu.

Mae’r tân eisoes wedi dinistrio tri thŷ, difrodi un arall ynghyd a thair carafán, caban, garej a tua 6 o gerbydau.

Fe ddechreuodd y tan ddydd Llun ac mae 3,000 o ddiffoddwyr tân a 25 o awyrennau wedi bod yn ceisio dod â’r tân o dan reolaeth.