Gwennant Gillespie ar y dde
Mae Gwennant Gillespie, un o hoelion wyth yr Urdd a dawnsio gwerin, wedi marw yn 102 mlwydd oed.
Roedd yn un o ffigyrau arloesol yr Urdd ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Dawnsio Gwerin Cymru. Hefyd bu ynghlwm â nifer o feysydd diwylliannol eraill megis gwersylloedd cydwladol. Ei chyfraniad mwyaf oedd adfer diddordeb trwy Gymru mewn dawnsio gwerin, a hynny drwy’r Urdd.
Bu hefyd yn gyfrifol am drefnu cyrsiau penwythnos ledled Cymru megis Y Cilgwyn a Cilfro.
Roedd hefyd yn gyfrifol am drefnu gwyliau gwerin cenedlaethol fel yr un a ddenodd 400 o bobl i Bafiliwn Corwen yn 1958 a Gŵyl Werin Caerdydd yn 1962.
Roedd Gwennant Gillespie hefyd yn weithgar iawn yn lleol a chyfranodd lawer fel aelod o Eglwysi Seilo a’r Morfa, Cymdeithas yr Aelwyd yn Aberystwyth.
Bu’n gwasanaethu’r Urdd yn ddi-dor o 1943 hyd ei hymddeoliad yn 1973. Ei swydd gyntaf gyda’r mudiad oedd fel Warden ar Glwb Ieuenctid yr Urdd yn Aberystwyth tra gorffenodd ei gyrfa â’r mudiad fel Pennaeth yr Adran Weinyddol.