Honiadau yn erbyn staff
Mae cwmni coffi Starbucks yn wynebu achos llys, yn dilyn honiadau bod staff yn Efrog Newydd wedi bod yn anghwrtais tuag at gwsmeriaid byddar sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dywed dogfennau cyfreithiol bod yr heddlu wedi cael eu galw i geisio cael gwared a grŵp o gwsmeriaid byddar ar un achlysur oedd wedi ymgynnull i sgwrsio dros goffi.
Yn ôl y dogfennau, chwarddodd aelod staff ar ben un cwsmer oherwydd ei leferydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni yn Seattle eu bod nhw’n ymchwilio i’r honiadau.
“Mae gwahaniaethu o unrhyw fath yn Starbucks yn annerbyniol.
“Rydyn ni’n cymryd yr honiadau hyn o ddifrif ac yn credu nad ydyn nhw’n unol â’n gwerthoedd na’n hanes ni o gynnwys y gymuned fyddar fel partneriaid a chwsmeriaid.”
Dywed y dogfennau bod yr heddlu wedi cael eu galw oherwydd bod y grŵp wedi ymgynnull yn anghyfreithlon a heb drwydded, ac nad oedd y bobol yn gwsmeriaid go iawn.
Ymddiheurodd yr heddlu wrth y grŵp ar ôl iddyn nhw benderfynu nad oedden nhw wedi torri’r gyfraith, ac fe gafodd staff Starbucks eu ceryddu.
Dywed y grŵp eu bod nhw wedi dioddef embaras a phoen emosiynol oherwydd y digwyddiad.