Dzhokar Tsarnaev
Mae dyn 19 oed, sy’n cael ei amau o gymryd rhan mewn ymosodiad terfysgol yn ystod Marathon Boston, wedi ymddangos o flaen llys.

Roedd Dzhokar Tsarnaev wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Tsarnaev wedi ei gyhuddo o ddefnyddio arf a fyddai’n achosi dinistr mawr yn yr ymosodiad ym mis Ebrill.

Cafodd tri o bobl eu lladd a mwy na 260 o bobl eraill eu hanafu yn y digwyddiad.

Nid yw Tsarnaev wedi ymddangos yn gyhoeddus ers iddo gael ei arestio ar Ebrill 19. Cafodd ei wrandawiad cychwynnol ei gynnal mewn ysbyty ble’r oedd yn  gwella o anafiadau a gafodd  mewn gwrthdaro gyda’r heddlu pan gafodd ei frawd a chyd-gynllwynwr honedig ei ladd.

Dihangodd Dzhokar Tsarnaev ond daethpwyd o hyd iddo’n cuddio mewn cwch yn ddiweddarach.

Gallai wynebu’r gosb eithaf os fydd y rheithgor yn ei gael yn euog.