Mae disgwyl i Aelodau Seneddol wynebu beirniadaeth hallt pan fydd argymhellion i roi codiad cyflog iddyn nhw o bron i £10,000 yn cael eu cyhoeddi.
Mae disgwyl i’r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (Ipsa) argymell codiad cyflog o 12% i £75,000 ond gan gyfyngu ar dreuliau eraill megis ciniawau.
Fe fydd y rheoleiddiwr yn dadlau na fydd y pecyn newydd yn costio mwy nag ychydig gannoedd o filoedd y flwyddyn yn ychwanegol i’r pwrs cyhoeddus.
Ond mae codiad cyflog i ASau yn sicr o godi gwrychyn y cyhoedd yn sgil yr helynt hawlio treuliau a’r cyfyngiadau o 1% ar gyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Mae David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg eisoes wedi awgrymu na fyddan nhw’n derbyn yr arian ychwanegol.
Ond fe fyddai’n rhaid iddyn nhw newid y gyfraith i geisio atal Ipsa rhag cyflwyno’r codiad cyflog ac mae’n annhebyg y byddai’n llwyddo gan fod y rhan fwyaf o ASau’r meinciau cefn yn credu nad ydyn nhw’n cael digon o gyflog.
Mae cadeirydd Ipsa Syr Ian Kennedy wedi mynnu nad oes “amser da” i ddelio gyda’r mater ac wedi rhybuddio y gallai osgoi rhoi codiad cyflog arwain at wleidyddion yn ceisio hawlio mwy o dreuliau er mwyn hybu eu cyflogau.
Fe fyddai’r codiad cyflog o 12% o £66,000 i £75,000 yn digwydd ar ôl yr etholiad cyffredinol yn 2015.