Joanne Thomas
Fe fydd cwest yn agor heddiw i farwolaethau mam a’i babi yn ardal Merthyr wythnos ddiwethaf.

Cafwyd hyd i gyrff Joanne Thomas, 27 a’i babi pedwar mis oed, Harper, yn eu tŷ yn Stryd yr Eglwys, Troedyrhiw, ddydd Mercher diwethaf.

Dywed Heddlu De Cymru nad ydyn nhw’n trin eu marwolaethau fel rhai amheus.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ond dywed yr heddlu eu bod yn aros am ganlyniadau rhagor o brofion i geisio darganfod sut y bu’r ddwy farw. Ond dywed yr heddlu nad yw’n ymddangos bod unrhyw amgylchiadau amheus.

Mae’r heddlu wedi apelio ar bobol leol i gysylltu â nhw os ydyn nhw’n credu eu bod nhw wedi gweld Joanne Thomas yn yr wythnosau’n arwain at 3 Gorffennaf.