Hollie McClymont
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai corff merch 14 oed, a ddiflannodd yn y Barri ddydd Sul, oedd wedi ei ddarganfod yn y môr ger Ffontygari ym Mro Morgannwg ddoe.

Nid oedd Hollie Jamie-Lee McClymont o Glasgow wedi cael ei gweld ers iddi fynd i drafferthion yn y môr  tra’n nofio gyda ffrindiau ger Bae Whitmore yn y Barri ddydd Sul.

Dywedodd y Prif Arolygydd Marc Lamerton o Heddlu De Cymru: “Rydym yn meddwl am deulu Hollie yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Hoffwn ddiolch i gymuned Y Barri a’r cyfryngau am eu cefnogaeth yn ystod y digwyddiad yma.”

Roedd Hollie ar wyliau yn yr ardal gyda’i theulu.

Roedd yr heddlu a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn ceisio dod o hyd iddi ers y penwythnos. Mae’n debyg bod Hollie McClymont wedi bod mewn trafferthion ers tuag awr cyn i’r gwasanaethau brys gael eu galw.