Betsan Powys yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth
Mae prifysgolion Cymru wedi anrhydeddu rhai o enwogion Cymru yn ystod eu seremonïau graddio heddiw.
Mae Betsan Powys, Gareth Edwards a Bonnie Tyler ymhlith y rhai sydd wedi derbyn graddau er anrhydedd.
Betsan Powys
Cafodd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys ei phenodi’n Gymrawd gan Brifysgol Aberystwyth, lle bu’n fyfyrwraig Almaeneg a Drama, gan raddio yn 1987.
Ymunodd hi â’r BBC yn 1989 fel Hyfforddai Newyddion.
Bu’n gyflwynydd nifer o brif raglenni newyddion y Gorfforaeth, gan gynnwys Panorama, Week In Week Out a’r Byd ar Bedwar.
Gareth Edwards a Bonnie Tyler
Bonnie Tyler
Yn y cyfamser, mae’r gantores Bonnie Tyler ac un o fawrion y byd rygbi, Gareth Edwards wedi derbyn graddau er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Cafodd Bonnie Tyler ei geni yn Sgiwen ac mae ganddi gartref yn Y Mwmbwls ar gyrion Abertawe.
Derbyniodd hi DLitt gan y Brifysgol heddiw gan yr Adran Fusnes, Economeg a’r Gyfraith.
Daeth ei hawr fawr gyda’i sengl ‘Lost in France’, a gyrhaeddodd rhif naw yn siartiau Prydain, a daeth hi’n enw adnabyddus yn Ewrop o ganlyniad.
Mae ei chaneuon eraill yn cynnwys ‘It’s a Heartache’, ‘Total Eclipse of the Heart’ (rhif 1 ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau), a ‘Faster Than The Speed of Light’.
Cynrychiolodd y DU yn yr Eurovision Song Contest eleni yn Sweden.
Wrth dderbyn y radd, dywedodd Bonnie Tyler: “Er fy mod i wedi bod yn ddigon lwcus i deithio’r byd yn canu, rwy mor angerddol ag erioed am Gymru ac Abertawe, a fydda i byth yn anghofio fy ngwreiddiau.
“Rwy’n dal i fyw yn Y Mwmbwls, sydd dafliad carreg o’r Brifysgol.
“Mae cael fy mhenodi’n Gymrawd Er Anrhydedd gan fy mhrifysgol ‘gartref’ yn fraint o’r mwyaf.”
Gareth Edwards
Derbyniodd cyn-fewnwr Cymru a’r Llewod, Gareth Edwards LLD Er Anrhydedd gan y Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith heddiw.
Cafodd ei eni yng Ngwaun-Cae-Gurwen yng Nghwm Tawe, a chafodd ei addysgu ym Mhontardawe cyn symud i Ysgol Millfield ar ysgoloriaeth chwaraeon.
Yn yr ysgol, roedd yn bêl-droediwr ac athletwr o fri, a chafodd gynnig treial gyda’r Elyrch, ond penderfynodd fentro i fyd rygbi.
Cafodd ei gap cyntaf o 53 dros Gymru yn 1967 yn 19 oed, a fe oedd capten ieuengaf Cymru erioed yn 20 oed.
Cafodd ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 1974, a derbyniodd MBE y flwyddyn ganlynol, a CBE yn 2007.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Byd Erioed yn 2003 gan gylchgrawn Rugby World.
Bellach, mae’n sylwebydd ar S4C.
Wrth dderbyn y radd, dywedodd: “Rwy’n falch iawn o gael derbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
“Cafodd Abertawe effaith fawr ar fy mywyd cynnar i, wrth i fi dyfu i fyny yng Ngwaun Cae Gurwen nid nepell o’r ddinas.
“Felly rwy wrth fy modd yn cael nodi fy nghysylltiadau agos gyda’r ddinas trwy dderbyn y Radd Er Anrhydedd hon gan Brifysgol Abertawe.”