Ers tair blynedd bellach mae gŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau wedi “dychwelyd i’w gwreiddiau gwerinol.”
Cafodd Sesiwn Fawr Dolgellau ei chynnal yn y dre’ rhwng 1992 a 2008 ond oherwydd anawsterau ariannol a thywydd gwael , daeth y cyfan i ben am gyfnod.
Ond eleni, mae’r trefnwyr wedi dweud bod y rhan fwyaf o’r dyledion wedi eu talu a bod yr ŵyl wedi “ail-sefydlu ei hun fel un o uchafbwyntiau calendr yr haf.”
“Mi rydan ni wedi clirio’r rhan helaeth o’r dyledion ac mae’r ŵyl wedi bod yn llwyddiannus dros y ddwy flynedd diwethaf,” meddai un o’r trefnwyr, Geraint Edwards, wrth Golwg360.
Sesiwn ar ei newydd wedd
Ychwanegodd Geraint Edwards ei fod yn edrych ymlaen at y penwythnos, sydd wedi bod yn cael ei drefnu ers mis Medi diwethaf, fydd yn gweld y Sesiwn ar ei newydd wedd.
“Dwi’n edrych ymlaen yn arw iawn,” meddai. “Mi fydd hi’n braf iawn gweld yr ŵyl nôl yng nghanol y dref – yn nes at awyrgylch gwreiddiol yr ŵyl.”
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 19-21 Gorffennaf eleni a bydd bandiau fel Georgia Ruth, H a’r Band, Chowbois Rhos Botwnnog, Y Bandanas, Al Lewis, Calan, Ryland Teifi, Mendocino a Steve Eaves yn perfformio.
“Mae ‘na amrywiaeth o ddigwyddiadau,” meddai Geraint Edwards, “ond dwi’n edrych ymlaen yn arw at greosawu Steve Eaves nôl i Dŷ Siamas ar y nos Wener. A bydd y pethau ar y sgwâr ar y dydd Sadwrn hefyd yn fendigedig.”
Ymysg y digwyddiadau eraill fydd yn cael eu cynnal o amgylch y dref fydd perfformiadau byw o chwedlau lleol, cystadleuaeth clocsio ac Ymryson y Beirdd.
Ychwanegodd Geraint Edwards: “Mae hi am fod yn benwythnos braf iawn – yn nes at yr hen naws cymunedol, gwerinol a hafaidd.
“A dwi’n un sy’n edrych ymlaen at glywed seiniau’r ffidl, y bodhran a’r gitâr yn atseinio o fewn muriau’r sgwâr unwaith eto.”
Pris tocyn penwythnos yw £25, ac mae tocyn noson yn £15. Mae rhagor o wybodaeth a modd o brynu tocynnau ar wefan Sesiwn Fawr Dolgellau: http://sesiwnfawr.wordpress.com