Mae Geraint Rowlands wedi penderfynu gadael ei swydd fel Pennaeth Darlledu a Chomisiynydd Chwaraeon a Digwyddiadau S4C.

Dywedodd ei fod yn gadael er mwyn dilyn cyfleoedd creadigol newydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys: “Hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch yn fawr iawn i Geraint am ei holl waith yn ystod y chwe blynedd diwethaf.

“Dwi’n siŵr fy mod i’n siarad ar ran pawb yn S4C wrth ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser i gydweithio gydag e.  Ry’ ni i gyd yn dymuno pob dymuniad da iddo i’r dyfodol.”

‘Sialensau’

Dywedodd Geraint Rowlands: “Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys cyfnodau hapus, adeiladol a heriol ac rydw’i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda chymaint o bobl greadigol, dalentog a gweithgar. Hoffwn ddiolch i’r timau cynhyrchu am eu cefnogaeth a’u hymroddiad.

“Mae S4C wedi wynebu nifer o sialensiau anodd iawn dros y tair blynedd diwethaf, ond gyda chyfnod o sefydlogrwydd bellach ar y gorwel dan arweiniad Ian Jones, hoffwn ddymuno’r gorau iddo fe a gweddill y tîm yn S4C.

Fe fydd gwaith comisiynu Chwaraeon yn cael ei wneud dros dro gan y Comisiynydd Ffeithiol, Llion Iwan, a gwaith comisiynu Digwyddiadau yn cael ei wneud dros dro gan y Cyfarwyddwr Cynnwys, Dafydd Rhys.