Marion Bartoli
Mae’r BBC wedi derbyn mwy na 600 o gwynion yn dilyn sylwadau’r cyflwynydd John Inverdale am y bencampwraig tenis, Marion Bartoli.

Wrth sylwebu yn ystod  rownd derfynol y merched ym Mhencampwriaeth Wimbledon ddydd Sadwrn rhwng Marion Bartoli a Sabine Lisicki, gofynnodd John Inverdale: “Ydach chi’n meddwl bod tad Bartoli wedi dweud wrthi pan oedd hi’n blentyn ‘dwyt ti byth am fod yn olygus, fyddi di byth yn  Sharapova, felly mae’n rhaid i ti ymladd’?”

Yn dilyn ei sylwadau, fe drodd llawer at drydar i feirniadu John Inverdale gyda rhai yn galw ar y BBC i’w ddiswyddo.

Fe geisiodd John Inverdale egluro’i sylwadau ddydd Sul gan ddatgan ei fod wedi ysgrifennu at Marion Bartoli i ymddiheuro am ddefnyddio ‘geirfa letchwith’.

Meddai: “Y pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud oedd bod y cyhoedd yn credu fod chwaraewyr tenis i gyd yn athletwyr Amasonaidd chwe throedfedd. Nid yw Marion yn ffitio mewn i’r tueddiad yma ac mae’n esiampl wych i bobl ifanc fod agwedd, greddf a phenderfyniad ynghyd â dawn yn eich cael i’r brig.”

Dywedodd Marion Bartoli nad oedd am adael i sylwadau John Inverdale daflu cysgod ar  ei buddugoliaeth.

Meddai: “Does dim ots. Dydw i ddim yn ferch benfelen. Mae hynna’n ffaith. A ydw i wedi breuddwydio am gael gyrfa yn modelu? Naddo, mae’n ddrwg gen i. Ond a ydw i wedi breuddwydio ennill Wimbledon? Yn sicr, do.”