Louise Amery
Mae Louise Amery wedi ei secondio i swydd Cyfarwyddwr Ganolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth, yn dilyn ymddeoliad y cyn- gyfarwyddwr, Alan Hewson.
Fe ymunodd Louise Amery â’r Ganolfan yn 1993 yn Rheolwr Marchnata, ac ers 2001 bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ar y Ganolfan.
“Mae Canolfan y Celfyddydau yn dathlu ei 40fed pen-blwydd eleni, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi sefydlu ei hunan fel prif lwyfan y celfyddydau yng Nghymru ac un o’r mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y Deyrnas Gyfunol,” meddai Louise Amery.
“Yn ddiweddar lansiwyd Cynllun Strategol tair blynedd y Ganolfan sydd yn gosod ein gweledigaeth amdani, un sydd wedi’i seilio ar ein credo yng ngrym y Celfyddydau i drawsnewid cymdeithas a newid a chyfoethogi bywydau.
“Mae’n destun balchder i mi ym mod wedi bod yn rhan o dîm Canolfan y Celfyddydau am yr ugain mlynedd a aeth heibio ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’m cydweithwyr ac adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes.
“Mi fydd ein blaenoriaeth yn parhau’r un, sef darparu rhaglen wych o weithgareddau celfyddydol ar gyfer mwynhad y gymuned gyfan.”
Mae Louise yn dechrau yn ei swydd newydd yn syth. Mae’r broses i benodi Cyfarwyddwr newydd i olynu Alan Hewson eisoes ar droed a bydd y swydd yn cael ei hysbysebu’n eang.