Huw Edwards
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfres deledu Story of Wales y BBC a’r Brifysgol Agored yn cael ei defnyddio i geisio denu disgyblion i gymryd diddordeb mewn Hanes.

A Huw Edwards, y newyddiadurwr a chyflwynydd y gyfres, gafodd y gwaith o lawnsio’r cynllun yn Ysgol Gyfun Basaleg yng Nghasnewydd.

Mae Story of Wales yn darparu deunydd fideo ar hanes a diwylliant Cymru i gefnogi’r Cwricwlwm Cymreig yng Nghyfnodau Allweddol 2 i 4.

Fe fydd y deunyddiau newydd ar gael i ysgolion eu defnyddio drwy Hwb, amgylchedd dysgu rhithiol Llywodraeth Cymru, ac Addysg Cymru ar iTunes U.

Teimlo’n gryf

“Dw i’n teimlo’n gryf iawn am hanes a diwylliant Cymru,” meddai Huw Edwards.

“Dw i wrth fy modd bod ein cyfres ni, cyfres dw i’n falch iawn ohoni, yn cael ei defnyddio i addysgu pobl ifanc am orffennol hynod ddiddorol Cymru.

“Drwy wneud hanes yn rhywbeth cyffrous sy’n ennyn brwdfrydedd pobol ifanc,” meddai Huw Edwards wedyn, “dw i’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli disgyblion Basaleg a Chymru gyfan i fynd ar-lein a dysgu mwy am ein treftadaeth ac am sut cafodd Cymru fodern ei geni.”