Mae cyhoeddwyr papur newydd wythnosol diweddara’ Cymru’n addo y bydd yna adran Gymraeg ynddo ac y bydd honno’n cynyddu.

Fe ddylai copïau cynta’r Pembrokeshire Herald fod yn mynd ar werth y bore yma – mae’r cyhoeddwyr yn dweud eu bod yn argraffu 20,000 o gopïau.

Mae’r papur yn cael ei gyhoeddi gan gwmni Megagroup Pembrokeshire Ltd o Aberdaugleddau dan arweiniad dyn lleol, Thomas Sinclair, sy’n dweud bod angen papur newydd yn yr hen steil, sy’n rhoi sylw i newyddion lleol iawn.

Y cwmni tu cefn i’r papur

Nhw hefyd sy’n cyhoeddi cylchgrawn lleol o’r enw Best, yn cynnal gorsaf radio leol ar-lein ac maen nhw’n dweud eu bod yn cynllunio gorsaf deledu ar-lein.

Fe fyddan nhw’n cystadlu yn erbyn papurau lleol fel y Western Telegraph sy’n cael eu cyhoeddi gan gwmnïau mawr.

Mae’r cyhoeddwyr wedi dweud y bydd yna adran Gymraeg – un fechan i ddechrau ond un a fydd yn tyfu i gydnabod Cymreictod gogledd Sir Benfro.

Fe ddywedodd Thomas Sinclair wrth Radio Wales ei fod yn sylweddoli bod cyhoeddi’r papur newydd yn her fawr ac yn fuddsoddiad mawr ond fod hysbysebion eisoes wedi talu am y rhifyn cynta’.