Bernie Nolan
Mae’r gantores a’r actores Bernie Nolan wedi marw yn 52 oed ar ôl bod yn dioddef o ganser.

Daeth i enwogrwydd yn canu gyda’i chwiorydd The Nolans ac mae’r grŵp yn fwyaf adnabyddus am y gan In The Mood For Dancing yn 1979 gan werthu miliynau o recordiau ar draws y byd.

Fe adawodd y grŵp ym 1994 gan actio yn y gyfres sebon Brookside a The Bill. Roedd hefyd wedi ymddangos ar lwyfan mewn cynyrchiadau fel Blood Brothers, Flashdance The Musical a  Chicago The Musical.

Fe glywodd Bernie Nolan ei bod yn dioddef o ganser y fron yn 2010 a’r llynedd cafodd wybod bod y canser wedi lledu i’w hymennydd, iau, ysgyfaint a’i hesgyrn. Mae’n gadael merch, Erin, sy’n 14 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu ei bod wedi marw bore ma gyda’i theulu o’i chwmpas.