Roedd annerch ar y Maen Llog yn brofiad “gwefreiddiol” i’r fenyw gyntaf erioed i gael ei hethol yn Archdderwydd.
Fe gafodd Christine James ei hurddo yn ystod y seremoni gyhoeddi yng Nghaerfyrddin, ar ol i’r Orsedd a channoedd o bobol orymdeithio drwy’r dref i ddathlu dyfodiad y brifwyl i’r sir yn 2014.
“Roedd yn brofiad gwefreiddiol, mewn gwirionedd,” meddai Christine James, sydd yn Uwchddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
“Ro’n i’n ymwybodol bod hanes yn cael ei greu ar un ystyr ac eto, efallai bod y ffaith bod menyw ar y Maen Llog yn rhan o broses anorfod.
“Mae mwy o ferched wedi bod yn ennill y prif wobrau yn yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae’r pwll y byddai modd ethol Archdderwydd ohono yn cynyddu.
“Dw i’n gweld y peth hyn fel peth organig mewn ffordd, ond mai fi oedd y person lwcus i gael fy enwebu a’m hethol am y tro cyntaf i gyd.”
Darllenwch ragor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.