Y protestiadau yn yr Aifft
Fe fydd Arlywydd dros dro’r Aifft yn cyflwyno amserlen ar gyfer cynnal etholiadau seneddol ac arlywyddol yn y wlad yn gynnar yn 2014.
Mewn datganiad cyfansoddiadol neithiwr, dywedodd Adly Mansour y byddai’n creu dau bwyllgor i gyflwyno newidiadau i’r cyfansoddiad Islamaidd gafodd ei basio gan y cyn-Arlywydd Mohammed Morsi.
Bydd refferendwm ar y ddogfen newydd yn cael ei chynnal o fewn pedwar mis.
Cafodd Morsi ei ddisodli wythnos yn ôl yn dilyn protestiadau ar draws y wlad.