Theresa May
Fe fydd y Llywodraeth yn ei gwneud yn haws i estraddodi pobl sy’n cael eu hamau o derfysgaeth ar ôl i’r clerigwr eithafol Abu Qatada gael ei anfon o’r DU, meddai’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May.

Mae Theresa May wedi dweud wrth Dy’r Cyffredin y bydd y Llywodraeth yn atal taliadau cymorth cyfreithiol i dramorwyr sy’n cael eu hamau o derfysgaeth – credir bod oddeutu £430,000 o ffioedd cyfreithiol Abu Qatada wedi eu talu gan drethdalwyr.

Dywedodd y byddai’r Ddeddf Mewnfudo, a fydd yn cael ei chyflwyno’n ddiweddarach eleni, yn ei gwneud yn anoddach i dramorwyr sy’n cael eu hamau o derfysgaeth apelio yn erbyn cael eu hestraddodi.

Roedd Theresa May yn annerch Tŷ’r Cyffredin, ddiwrnod ar ôl i Abu Qatada gael ei anfon i Wlad yr Iorddonen ar ôl bron i 12 mlynedd o geisio ei estraddodi o Brydain. Mae’r achos wedi costio £1.7 miliwn.

Dywedodd Theresa May bod yr oedi wedi digwydd oherwydd problemau gyda’r ffordd mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei dehongli ac y dylid ystyried yn  ofalus perthynas y DU â’r Llys Ewropeaidd.

Dywedodd Theresa May: “Mae problemau â’r Ddeddf Hawliau Dynol a’r Llys Ewropeaidd yn Strasbourg yn parhau a byddai Abu Qatada wedi cael ei alltudio flynyddoedd yn ôl oni bai bod y llys wedi sefydlu sail gyfreithiol i rwystro hyn rhag digwydd.”