Fe fydd pump o bobl, gan gynnwys swyddog carchar, yn cael eu cyhuddo fel rhan o’r ymchwiliad i werthu gwybodaeth i newyddiadurwyr.

Maen nhw’n cynnwys y swyddog carchar Scott Chapman, ei gyn bartner Lynn Gaffney, a’r newyddiadurwyr Lucy Panton, Thomas Savage a Chris Pharo.

Honnir bod Scott Chapman wedi gwerthu manylion am garcharor adnabyddus.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron na fydd camau pellach yn ymwneud a honiadau yn erbyn newyddiadurwr a thri swyddog cyhoeddus.