Bryn Estyn ger Wrecsam
Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan na fydd celu’r gwir yn digwydd eto, yn sgil cyhoeddi Adroddiad Jillings i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru.
Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu 17 mlynedd yn ol a’i gyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.
Daeth Adroddiad Jillings i’r casgliad bod cam-drin plant a phobl ifanc mewn cartrefi gofal yn yr hen Sir Clwyd “wedi bod yn helaeth ac wedi digwydd dros nifer o flynyddoedd” ac roedd yr adroddiad wedi galw am ymchwiliad barnwrol llawn i ofal plant a phobl ifanc.
Dywedodd llefarydd Gwasanaethau Cymdeithasol Plaid Cymru, Lindsay Whittle AC ei bod yn hanfodol i Lywodraeth Cymru gymryd arweiniad ar y mater.
Meddai: “Mae’n gywilyddus ei fod wedi cymryd cyhyd i’r adroddiad pwysig hwn fod yn gyhoeddus. Anodd dychmygu sut y roedd y rhai a gafodd eu cam-drin yn blant yn teimlo dros y blynyddoedd, yn dyfalu tybed a ddeuai’r gwir fyth i olau dydd.
“Mae’n hollol hanfodol i Lywodraeth Cymru gymryd arweiniad a gwneud datganiad heddiw yn dweud na fydd y math hwn o gelu’r gwir yn cael ei oddef. Dylem fod yn ddiolchgar na ddinistriwyd pob copi o’r adroddiad gwreiddiol, fel y gallai yn y man gael ei ddatgelu.”
‘Mwy o bwerau i Gomisiynydd Plant Cymru’
Mae llefarydd Plant Plaid Cymru, Jocelyn Davies AC hefyd wedi cyflwyno cwestiwn brys gan alw am ddatganiad yn y Senedd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r adroddiad.
“Rhaid cael system arolygu lawer fwy cadarn a thrylwyr ledled Cymru fel nad oes yn rhaid i ni ddibynnu’n llwyr ar y cyfryngau i ddatgelu’r math yma o gam-drin yn y dyfodol.”
Mae Plaid Cymru wedi galw am fwy o bwerau a chefnogaeth i Gomisiynydd Plant Cymru i ymchwilio i gam-ddefnyddio grym gan gynnwys mewn cartrefi gofal.
‘Nifer o gwestiynau yn codi’
Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod ymateb yr awdurdodau – gan gynnwys Cyngor Sir Clwyd, y Swyddfa Gymreig, Heddlu Gogledd Cymru a sefydliadau eraill – i arwyddion o gam-drin wedi bod yn araf ac yn hwyr dro ar ôl tro.
Casgliad arall oedd bod gofal plant a phobl ifanc wedi bod yn eilradd o’i gymharu â diogelu swyddi proffesiynol.
Cafodd adroddiad John Jillings ei gomisiynu gan hen Gyngor Sir Clwyd ond ym 1996 fe benderfynodd y cyngor beidio â chyhoeddi’r adroddiad am fod cwmni yswiriant y cyngor yn poeni y byddai’n arwain at geisiadau am iawndal.
Wrth ymateb i’r adroddiad ar ei gyfrif Twitter, dywedodd Aelod Cynulliad Rhanbarthol Gogledd Cymru, Aled Roberts AC: “Mae’n anodd deall sut wnaeth Cyngor Sir Clwyd atal Adroddiad Jillings rhag cael mynediad i ddogfennau gwasanaethau cymdeithasol, a hwythau wedi comisiynu’r adroddiad. Mae nifer o gwestiynau yn codi o hyn ond mae Cyngor Clwyd wedi ymateb yn wael.”
‘Methiannau difrifol’
Dywedodd Peter Wanless, prif weithredwr yr NSPCC: “Mae’r adroddiad yn gwneud sylwadau ar fethiannau difrifol i amddiffyn plant a ddigwyddodd bron i 40 mlynedd yn ôl – ond fe allan nhw fod yn sylwadau ar achosion ofnadwy sy’n digwydd heddiw.
“Er bod rhai pethau wedi gwella – yn enwedig ar gyfer y rhai sydd mewn gofal – nid yw rhai pethau wedi newid o gwbl. Mae Jillings yn sôn am fuddiannau plant yn cael eu haberthu yn aml gan y gweithwyr proffesiynol a ddylai fod wedi bod yn gofalu amdanyn nhw.
“Er bod Jillings yn ymwneud â’r hyn oedd yn digwydd rhwng 1974-1993, mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw’r math hwn o gam-drin yn bwrw ei gysgod dros blant heddiw.”
‘Peri gofid’
Daeth honiadau o gam-drin mewn nifer o gartrefi plant, gan gynnwys Bryn Estyn yn Wrecsam, i’r amlwg yn y 90au. Roedd Heddlu’r Gogledd wedi ymchwilio i’r honiadau ym 1991 a chafodd saith o gyn weithwyr mewn cartrefi gofal eu dedfrydu.
Ond wrth i fwy o honiadau o gam-drin ddod i’r amlwg mewn 40 o gartrefi plant, cafodd adroddiad Jillings ei gomisiynu ym mis Mawrth 1994 i ymchwilio i’r honiadau.
Heddiw yw’r tro cyntaf i’r adroddiad gael ei weld. Mae’n cael ei gyhoeddi ar-lein gan Gyngor Sir y Fflint yn dilyn cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC – http://www.wrexham.gov.uk/welsh/council_w/news_w/jillings.htm
Mae datganiad ar wefan Cyngor Sir Wrecsam yn dweud: “Ar ôl cael cyngor a thrafodaethau cyfreithiol annibynnol â’r Heddlu sy’n gweithredu ar ran ymchwiliad Ymgyrch Pallial i gyhuddiadau diweddar o achosion hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru, mae’r adroddiad wedi’i olygu, ond heb ei gwtogi, ac mae rhai enwau a manylion wedi’u cuddio.”
Mae’r Cynghorau hefyd yn “cydnabod y gallai rhyddhau’r adroddiad beri gofid i’r rheiny a effeithir gan achosion o gamdriniaeth yn y gorffennol.”