Y ty yng Nghwmbran lle bu farw tair cenhedlaeth o'r un teulu
Mae merch ifanc wedi adrodd sut y cafodd ei deffro gan sgrechiadau mam a’i merch a fu farw mewn tân yn eu cartref yng Nghwmbrân fis Medi’r llynedd.
Fe glywodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd fod y ferch ifanc, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi clywed Kim a Kayleigh Buckley yn gweiddi am help pan rwygodd tan drwy eu tŷ gan ladd y ddwy ynghyd a merch Kayleigh, Kimberley, a oedd yn chwe mis oed.
Mae Carl Mills, tad Kimberley, yn gwadu llofruddio’r tair.
Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo, dywedodd y ferch ifanc ei bod wedi gweld Carl Mills, yn ystod y tân a’i fod yn edrych fel petai wedi meddwi. Dywedodd y ferch bod ei chymdogion yn ceisio cysuro Kim a Kayleigh Buckley.
Meddai: “Roedd y cymdogion yn ceisio’u cysuro nhw a gweld os oedd ffordd iddyn nhw ddianc.”
Dywedodd y ferch ei bod wedi clywed Kim a Kayleigh Buckley yn siarad â’i gilydd yn y tŷ a’i bod yn amlwg fod y ddwy yn gaeth yn yr ystafell wely.
Meddai: “Dyna’r peth olaf i mi glywed ganddyn nhw.”
Fe glywodd y rheithgor fod cymdogion wedi dweud wrth Carl Mills dair gwaith fod y tŷ ar dân a’i fod wedi cyfeirio at ei blentyn fel “y babi rhyfedd ‘na.”
Mae’r achos yn parhau.