Julia Gillard
Mae Prif Weinidog Awstralia, Julia Gillard, wedi colli  pleidlais am arweinyddiaeth y Blaid Lafur i’w rhagflaenydd Kevin Rudd.

Fe enillodd Kevin Rudd 57 o bleidleisiau a Gillard, 45.

Roedd Julia Gillard, sy’n wreiddiol o’r Barri, wedi ei ddisodli fel Prif Weinidog yn 2010.

Mae’n golygu mai Kevin Rudd yw arweinydd newydd y Blaid Lafur ond bod Gillard yn cadw ei swydd yn Brif Weinidog.

Roedd  arolygon barn wedi dangos y gallai’r blaid wynebu colledion enfawr yn yr etholiadau ym mis Medi ac y byddai Kevin Rudd yn arweinydd mwy poblogaidd na Julia Gillard.

Dywedodd y Prif Weinidog y dylai’r sawl sy’n colli’r bleidlais am yr arweinyddiaeth roi’r gorau iddi yn yr etholiad.

Roedd Kevin Rudd wedi bod yn Brif Weinidog poblogaidd ar y cyfan pan wnaeth Julia Gillard ei herio am yr arweinyddiaeth dair blynedd yn ôl gan fynd ymlaen i ennill etholiad cyffredinol gyda mwyafrif bychan.

Mewn pleidlais arall am yr arweinyddiaeth yn  2012, fe gurodd Julia Gillard yn hawdd. Yna, ym mis Chwefror eleni galwodd Julia Gillard bleidlais arall ond ar y funud ola’, fe benderfynodd Kevin Rudd na fyddai’n fodlon sefyll yn ei herbyn – er gwaetha’ anogaeth gan nifer o wleidyddion amlwg.