Mae dyn 45 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi digwyddiad mewn tafarn yng nghanol y dref yn Wrecsam bore ma.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Westy’r Cambrian yn Town Hill, Wrecsam, am 00.43 y bore yma, yn dilyn adroddiad bod dyn wedi’i anafu’n ddifrifol.

Roedd y dyn 34 oed o ardal Llai yn Wrecsam wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r safle wedi ei chau i’r cyhoedd, ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a oedd yn y dafarn tuag adeg y digwyddiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo’r Taclau ar  0800 555 111.