Hamid Karzai
Mae lluoedd y Taliban wedi ymosod ar balas arlywyddol Afghanistan yn y brifddinas, Kabul.
Dywedodd y fyddin bod yr ymosodwyr wedi cael eu lladd, ond does dim gwybodaeth am unrhyw farwolaethau eraill.
Mae’r Taliban wedi dweud mai nhw sy’n gyfrifol am yr ymosodiad a ddigwyddodd wrth i newyddiadurwyr ddod at ei gilydd ar gyfer cynhadledd i’r wasg lle’r oedd disgwyl i’r Arlywydd Hamid Karzai siarad am ymdrechion i ddechrau trafodaethau heddwch gyda’r grŵp milwriaethus.
Mae’r palas yn un o ardaloedd mwyaf diogel Kabul sydd hefyd yn cynnwys Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau a phencadlys lluoedd y glymblaid.
Dim ond wythnos diwethaf, agorodd y Taliban swyddfa yn Qatar ar gyfer trafodaethau heddwch gyda’r Unol Daleithiau a llywodraeth Afghanistan. Ond ar yr un pryd, mae’r trais yn parhau ac mae ymosodiadau wedi parhau ar draws y wlad.