Mae’r heddlu’n wynebu rhagor o bwysau heddiw ynglŷn â honiadau bod swyddogion cudd wedi cael gorchymyn i chwilio am wybodaeth er mwyn ceisio difrïo teulu a ffrindiau’r myfyriwr croenddu Stephen Lawrence.

Mae disgwyl i Gomisiynydd Scotland Yard Syr Bernard Hogan-Howe wneud cyfweliad radio yn dilyn rhagor o honiadau damniol am eu gweithredoedd cudd yn y gorffennol.

Roedd tad Stephen Lawrence, Neville, neithiwr wedi galw am ymchwiliad barnwrol i’r honiadau gan ddweud bod cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddoe yn “gwbl anfoddhaol.” Mae hi wedi dweud y bydd yr honiadau yn cael eu hystyried fel rhan o ddau ymchwiliad sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.

Cafodd Stephen Lawrence ei lofruddio mewn ymosodiad hiliol yn Llundain ym 1993.