Mae cwmnïau cig coch Cymru wedi teithio i Foscow’r wythnos hon i hybu eu cynnyrch yn Rwsia.
Nod y daith, sydd wedi cael ei threfnu gan Hybu Cig Cymru, yw cynyddu allforion cig Cymru i’r wlad.
Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru, Gwyn Howells, fod y daith dridiau i Foscow yn ganlyniad i flynyddoedd o drafodaethau â’r awdurdodau yn Rwsia.
“Ers chwalu’r Llen Haearn, mae economi Rwsia wedi tyfu’n aruthrol, ynghyd â gofynion y boblogaeth,” meddai Gwyn Howells.
“Maen nhw’n chwilio am gynhyrchion bwyd o ansawdd uchel, yn y siopau a’r tai bwyta. Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gwbl addas ar eu cyfer.”
Ar ddechrau 2012 bu tîm o archwilwyr o Rwsia draw yma yng Nghymru i weld cyflwr ffermydd ac unedau prosesu. Dyna oedd cam cyntaf y broses hir fydd yn arwain yn y pendraw at gael Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar silffoedd siopau yn Rwsia.
Er bod Rwsia yn gweithredu system gwota ar gyfer mewnforion cig eidion, does dim cyfyngiadau o’r fath ar gig defaid.
“Mae hyn yn newyddion da i’r diwydiant defaid yng Nghymru, a allai allforio cyfanswm sylweddol o Gig Oen Cymru i Rwsia yn flynyddol,” meddai Gwyn Howells. “Rwy hefyd yn ffyddiog y gwelwn ni Gig Eidion Cymru ar werth yno cyn bo bir.
Gwerth £213 miliwn
Mae diwydiant cig coch Cymru yn fusnes sy’n tyfu. Roedd allforion byd-eang o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn golygu £218 miliwn i economi Cymru yn 2012, a gobaith Hybu Cig Cymru yw cynyddu’r allforion wrth dargedu’r farchnad yn Rwsia
“Mae mwy o allforio yn newyddion da i bawb yng Nghymru oherwydd mae’n arwain at well enillion i ffermwyr Cymru a phroseswyr Cymru – yn ogystal â rhoi hwb i’r economi yng Nghymru yn gyffredinol,” meddai Mr Howells.
“Unwaith y bydd y Ffederasiwn Rwsiaidd yn cytuno i fewnforio cig coch Cymru, bydd yn golygu y gallwn hefyd allforio ein cynnyrch i Felarus a Casacstan, sydd, ynghyd â Rwsia, yn aelodau o grŵp masnachu’r Undeb Tollau.”
Mae Rwsia yn un o brif fewnforwyr cig eidion y byd. Pe bai cyfyngiadau yn cael eu codi, gallai gwerth y farchnad gig eidion yn unig fod yn gymaint â £115 miliwn y flwyddyn i gynhyrchwyr Prydain.
Yn ystod yr wythnos bydd cynrychiolwyr Hybu Cig Cymru ac Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu derbyn mewn digwyddiad yn llysgenhadaeth Prydain ym Moscow a fydd yn cael ei gynnal gan Lysgennad Prydain, Tim Barrow.