Mae cwmni gwyliau Thomson wedi dweud y bydd yn ymchwilio i achos  nam technegol mewn awyren oedd wedi arwain at alw’r gwasanaethau brys ddwywaith mewn pedair awr ar hugain.

Cafodd  y gwasanaethau brys eu galw i Faes Awyr Caerdydd ddydd Sadwrn a dydd Sul wedi i’r awyren Boeing 757 gael trafferthion gyda’i hadenydd.

Digwyddodd y broblem y tro cyntaf wrth i 200 o bobl ddychwelyd i Gaerdydd o Alicante yn Sbaen ddydd Sadwrn, tra bod y broblem wedi codi am yr eilwaith wrth i bobl ddychwelyd o Lanzarote nos Sul.

Yn ôl adroddiadau yn y Western Mail mae Thomson wedi cadarnhau mai’r un awyren fu mewn trafferthion a chafodd Heddlu De Cymru a Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru eu galw ar y ddau achlysur.

Dywedodd llefarydd ar ran Thomson y bydden nhw nawr yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain i’r hyn a ddigwyddodd.