Dylai bron i hanner miliwn o ferched iach sy’n wynebu’r risg o gael canser y fron gael cynnig cyffuriau a allai leihau’r tebygolrwydd o gael canser.
Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (Nice) dylai miloedd o ferched sydd â hanes o ganser y fron yn y teulu gael cynnig cwrs o gyffuriau fel tamoxifen neu raloxifene er mwyn osgoi gorfod cael llawdriniaeth i godi eu bronnau fel yn achos yr actores Angelina Jolie a Sharon Osbourne.
Dywed canllawiau newydd Nice y byddai atal pobl rhag datblygu canser yn arbed swm sylweddol o arian i’r GIG mewn cyfnod pan mae cyllidebau dan bwysau, a bod y cyffuriau yn gost-effeithiol.
‘Cam hanesyddol’
Mae Dr Caitlin Palframan, pennaeth polisi Breathrough Breast Cancer wedi croesawu’r canllawiau gan ddweud eu bod yn “gam hanesyddol” wrth geisio atal canser ac yn cynnig cyfle i ferched sy’n wynebu’r risg i wneud dewis am eu dyfodol.
Mae profion wedi dangos bod cymryd tamoxifen am bum mlynedd yn haneru’r risg o ddatblygu canser y fron mewn rhai merched oedd mewn peryg o gael canser.
Fe fydd y driniaeth yn cael ei gynnig o ferched dros 35 oed sy’n wynebu risg uchel neu risg gymedrol o gael canser y fron.
Mae’r Athro Gareth Evans, ymgynghorydd mewn ysbyty ym Manceinion oedd wedi helpu i ddatblygu’r canllawiau, yn dweud bod y cyffuriau’n gost effeithiol ac y gallan nhw atal merched rhag gorfod cael y profiad o gael diagnosis, radiotherapi ac o bosib chemotherapi.
Fe allai rhai merched lle mae’r risg o gael canser yn uwch na 80% benderfynu cael llawdriniaeth, sy’n fwy effeithiol na’r cyffuriau meddai’r Athro Gareth Evans. Dywedodd hefyd bod rhai sgil-effeithau i’r cyffuriau ond bod y rheiny fel arfer yn mynd ar ôl 6 mis.