Mae Llywodraeth Ecuador yn ystyried cais am loches gan Edward Snowden, a oedd wedi datgelu rhai o gyfrinachau gwasanaethau cudd America.

Roedd Edward Snowden wedi hedfan i Moscow o Hong Kong ddoe ac mae disgwyl iddo hedfan i Giwba yn ddiweddarach heddiw cyn teithio trwy Feneswela i Ecuador.

Mae Edward Snowden, a oedd yn arfer gweithio fel technegydd i’r CIA, yn wynebu cyhuddiadau o ysbïo yn yr Unol Daleithiau.

Ceisiodd yr Unol Deithiau estraddodi Edward Snowden o Hong Kong dros y penwythnos ond dywedodd swyddogion yn Hong Kong nad oedd cais yr Unol Daleithiau yn cydymffurfio’n llawn â’u cyfreithiau. Mae’r Americanwyr yn gwadu hynny.

Wrth ateb cwestiwn a fyddai rhoi lloches i Edward Snowden yn niweidio perthynas Ecuador gyda’r Unol Daleithiau, dywedodd llefarydd ar ran  llywodraeth Ecuador: “Mae rhai llywodraethau yn gweithredu o ran eu diddordebau eu hunain, ond nid ydym ni’n gwneud hynny. Rydym yn gweithredu ar ein hegwyddorion. Rydym yn cymryd gofal o hawliau dynol y bobl.”

Dywedodd WikiLeaks, sy’n helpu Edward Snowden, ei fod ar y ffordd i Ecwador “drwy lwybr diogel” er mwyn cael lloches ac yn cael ei hebrwng gan ddiplomyddion a chynghorwyr cyfreithiol o WikiLeaks.