Mae’r clo Paul O’Connell allan o daith y Llewod wedi iddo dorri ei fraich yn y gêm brawf yn erbyn Awstralia dydd Sadwrn.

Mae’r Gwyddel, sydd wedi chwarae 85 o weithiau i’w wlad, yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol y Llewod a bydd ei anaf yn glec i dîm Warren Gatland.

Hon oedd ei drydedd daith gyda’r Llewod ac roedd yn gapten ar y daith i Dde Affrica yn 2009.

Mae’n debyg mai’r Sais, Geoff Parling, fydd yn cymryd lle Paul O’Connell, wrth i’r Llewod baratoi am yr ail brawf wedi iddyn nhw ennill y cyntaf o 23-21.

Ac mae anaf Paul O’Connell hefyd wedi arwain at ail-ddewis y 23 ar gyfer gêm ganol wythnos olaf y Llewod yfory yn erbyn y Rebels ym Melbourne.

Mewn arwydd y bydd yn dechrau’r ail brawf yn erbyn Awstralia, mae Geoff Parling wedi cael ei dynnu oddi ar y tîm a blaenasgellwr Cymru Dan Lydiate sydd wedi cael ei benodi’n gapten.

Bydd Cymro arall, Ian Evans, yn cymryd lle Geoff Parling yn yr ail reng gyda Tom Croft yn cael ei alw i’r fainc.