Mae o leia’ dri o bobol wedi cael ei lladd gan fom anferth a ffrwydrodd ym mhrifddinas Afghanistan heddiw – ar y diwrnod y mae lluoedd NATO yn rhoi’r awenau yn nwylo byddin y wlad.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad yn ardal Pul-e-Surkh o ddinas Kabul, filltiroedd i ffwrdd o’r man lle cynhaliwyd seremoni i drosglwyddo’r cyfrifoldebau.

Y prif darged, yn ôl tystion, oedd confoi y gwleidydd, Mohammed Mohaqiq, sy’n gyn-aelod o Gabinet y wlad.

Fe oroesodd y ffrwydriad, ond fe welwyd cyrff tri o bobol yn gorwedd ar y ffordd.