Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth am ddyn o Dreganna sydd wedi bod ar goll ers Mehefin 8.

Cafodd Keith Horwood, 61, ei weld ddiwethaf gan ei gymydog ar Ffordd Rectory.

Doedd e ddim wedi datgan unrhyw fwriad i adael yr ardal.

Mae’r heddlu’n pryderu amdano.

Mae’n 6’1”, o gorffolaeth denau, a chanddo wallt hir sy’n llwydo, llygaid brown, mwstash a barf.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.