Bethan Gwanas
Cyhoeddodd Cronfa Goffa T Llew Jones mai Bethan Gwanas yw enillydd cynta’ y wobr a sefydlwyd i goffau un o brif awduron Cymru, y diweddar T Llew Jones.

Cafodd y gystadleuaeth ei lansio y llynedd gan wahodd awduron newydd a phrofiadol i gyflwyno pennod o stori antur i blant 10-12 oed yn nhraddodiad nofelau antur T Llew ei hunan. Cafwyd ymateb rhagorol i’r gystadleuaeth gyda 19 o ymgeiswyr.

Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni neithiwr a ddarlledwyd ar raglen Heno.

Wrth dderbyn y siec o £300, dywedodd Bethan Gwanas: ‘’Fel un o edmygwyr gwaith T Llew a’i ddawn arbennig i swyno plant hefo straeon anturus sy’n dal eu dychymyg teimlaf hi’n fraint arbennig i dderbyn y wobr hon.

“Mae’r wobr hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd maes cyhoeddi llyfrau plant yng Nghymru gan mai nhw fydd darllenwyr y dyfodol.’’