Senedd Cenia
Mae protestwyr yn Cenia wedi tollti gwaed buwch y tu allan i senedd y wlad, fel rhan o brotest yn erbyn ymgais gan wleidyddion i roi codiad cyflog iddyn nhw’u hunain.

Yn ôl yr ymgyrchydd cymeithasol, John Abuka, mae’r gwaed yn sumbol o ddioddefaint pobol gyffredin Cenia tra bod eu harweinwyr yn byw yn fras ar gyflogau mawr.

Fe fu tua 20 o brotestwyr yn gorymdeithio tua’r senedd, tra’n siantio’n uchel am yr Aelodau Seneddol “barus”. Mae rhai o’r protestwyr wedi ail-fedyddio eu cynrychiolwyr yn “Mpigs”.