Fe fu farw marsial y trac yn ystod y Grand Prix ym Montreal yng Nghanada ddoe.
Roedd y dyn wedi plygu i lawr i estyn radio oddi ar y llawr pan symudodd y craen yn ôl a’i daro.
Roedd y craen wrthi’n symud car Sauber Esteban Gutierrez pan ddigwyddodd y ddamwain.
Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un farw ym maes Formula 1 ers i Graham Beveridge gael ei ladd yn ystod Grand Prix Awstralia yn 2001.
Mewn datganiad, dywedodd y corff rheoli, FIA: “Mae’r FIA yn drist wrth gyhoeddi marwolaeth gweithiwr Formula One Grand Prix du Canada am 6.02pm (amser lleol).
“Roedd y gweithiwr, oedd yn aelod o’r Automobile Club de l’Ile Notre Dame, wedi dioddef damwain anffodus a ddigwyddodd ar ddiwedd y ras y prynhawn yma.”
Cafodd y gweithiwr ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty Sacre-Coeur lle cafodd ei drin gan feddygon y Grand Prix, ond fe fu farw’n ddiweddarach.
Ychwanegodd y datganiad: “Hoffai’r FIA, yr Automobile Club de l’Ile Notre Dame a’r Formula One Grand Prix du Canada fynegi eu cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r dyn.
“Allwn ni ddim datgelu pwy yw’r gweithiwr ar hyn o bryd.”
Mae timau a gyrwyr wedi mynegi eu tristwch hefyd ar wefannau cymdeithasol.