Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad car yn Sir y Fflint nos Sadwrn.

Cafodd pedwar o bobl eraill oedd yn teithio yn y car fân anafiadau pan darodd y cerbyd yn erbyn wal gardd yn Garden City.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad  tua 11.20yh nos Sadwrn ond bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei henw hyd yn hyn nes bod ei theulu wedi cael gwybod.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod difrod sylweddol wedi ei wneud i’r car Vauxhall Opel, a oedd â’r llyw ar yr ochr chwith.

Maen nhw’n apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, yn enwedig unrhyw un a oedd yn teithio mewn car tywyll y credir ei fod yn yr ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw  ar 101 a dyfynnu cyfeirnod P090082.