Recep Tayyip Erdogan yw Prif Weinidog Twrci
Mae Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan wedi dweud bod rhaid i’r protestio yn y wlad ddod i ben.

Yn ystod ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ers y protestiadau yr wythnos ddiwethaf, cafodd ei gyfarch gan 10,000 o gefnogwyr y tu allan i faes awyr Istanbul.

Mae Erdogan newydd ddychwelyd o daith i Ogledd Affrica.

Dywedodd: “Rhaid i’r protestiadau sy’n ymylu ar fod yn anghyfreithlon ddod i ben ar unwaith.”

Protestio

Mae’r protestiadau gan ddegau o filoedd o wrthwynebwyr y llywodraeth wedi lledu i nifer o ddinasoedd ledled Twrci, ac fe waethygodd y protestiadau ddydd Gwener diwethaf wrth i’r heddlu ymyrryd mewn protest fach yn erbyn cynlluniau i adnewyddu cyfleusterau yn Sgwar Taksim.

Bu farw tri o bobol – dau brotestiwr ac un plismon – ers dydd Gwener, ac mae miloedd yn rhagor wedi cael eu hanafu.

Mae un protestiwr ar beiriant cynnal bywyd yn yr ysbyty yn Ankara.

Dywed y protestwyr eu bod nhw’n anfodlon gyda dulliau awtocratig a hunandybus y Prif Weinidog.

Er bod Erdogan wedi beirniadu’r protestwyr, mae e wedi addo ymchwilio i ymddygiad yr heddlu yn ystod y protestiadau.

“Maen nhw’n dweud fy mod i’n Brif Weinidog ar 50%. Dydy hynny ddim yn wir. Rydyn ni wedi gwasanaethu’r holl wlad o’r dwyrain i’r gorllewin.

“Gyda’n gilydd, ni yw Twrci. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n frodyr.

“Dydyn ni erioed wedi ceisio torri calonnau. Rydyn ni’n ceisio codi calonnau.

“Dydyn ni erioed wedi bod o blaid adeiladu tensiwn a pholareiddio. Ond allwn ni ddim canmol cieidd-dra.”

Dywedodd Erdogan eisoes fod terfysgwyr wedi bod yn rhan o’r protestiadau yn y wlad.

Ychwanegodd fod gan fancwyr ran mewn cynllwyn oedd yn sbardun ar gyfer y protestiadau.

Mae mwy na 4,300 wedi cael eu hanafu yn ystod yr holl brotestiadau, gan gynnwys mwy na 500 o blismyn.

Mae’r protestiadau wedi achosi mwy na 70 miliwn Lira Twrcaidd (£24 miliwn).