Ysbyty Brenhinol Morgannwg Llantrisant
Mae gwleidyddion Llafur yn cael eu cyhuddo o wybod ymlaen llaw am fwriad i gau adran frys mewn ysbyty yn ne Cymru.
Ac, yn ôl y Ceidwadwyr, mae’r ddau AC a dau AS yn euog o “ragrith” wrth ymgyrchu i achub gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Fe allai eu llywodraeth nhw atal y bygythiad, meddai Andrew R T Davies, sy’n honni bod y gwleidyddion Llafur wedi cael “tip off” am y cynlluniau.
Cyhuddiad y Ceidwadwyr yw fod y pedwar gwleidydd – Leighton Andrews, Mick Antoniw, Owen Smith a Chris Bryant – wedi sefydlu gwefan ymgyrchu dri diwrnod cyn y cyhoeddiad am yr ysbyty.
‘Digywilydd’
Roedd y wefan wedi ei chau’n ddiweddarach, meddai’r Ceidwadwyr, ac un arall wedi ei hagor.
Er fod honno’n ymddangos yn annibynnol, maen nhw’n dweud bod honno hefyd wedi ei chofrestru gan y Blaid Lafur yn y Rhondda, etholaeth Leighton Andrews a Chris Bryant.
“Mae’n anhygoel fod gan Leighton Andrews a Mick Antoniw y digywilydd-dra i gerdded y strydoedd yn gwaredu at y posibilrwydd o gau gwasanaethau damwain a brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg o gofio mai eu Llywodraeth Lafur nhw sy’n rhedeg y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru,” meddai Andrew R T Davies.
“Yn awr, r’yn ni’n sylweddoli eu bod wedi cael gwybod ymlaen llaw, gan roi’r cyfle iddyn nhw roi eu peiriant sbin ar waith.”
Does dim ymateb gan y gwleidyddion Llafur hyd yn hyn.