Mae gŵr y Frenhines mewn ysbyty preifat yn cael llawdriniaeth ar ei stumog.
Fe gafodd Dug Caeredin ei gymryd yno ddoe ar ôl cymryd rhan mewn parti gardd ym Mhalas Buckingham.
Yn ôl llefarydd ar ran y Palas, roedd y driniaeth wedi ei threfnu ymlaen llaw ac mae’n debyg o fod yn yr ysbyt y am bythefnos.
Roedd y Dug, sy’n 92 oed, wedi cael trafferthion gyda’i stumog ynghynt eleni hefyd.