Fe fydd dau ddyn yn ymddangos yn y llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn yng Nghasnewydd.
Fe fu farw Barry Thomas o’r Betws ddydd Mawrth ar ôl ymosodiad nos Sul yn ardal Heol Methuen yn y ddinas.
Fe fydd dau ddyn 19 a 45 oed yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerffili y bore yma ar ôl cael eu harestio mewn gwasanaethau ar yr M5.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am ragor o dystion i’r ymosodiad ar y dyn 45 oed o Betws, Casnewydd.