Mae ymchwil newydd yn dangos bod llai o ddamweiniau angheuol a difrifol yn digwydd mewn ardaloedd lle mae camerâu cyflymdra.
Yn ôl Sefydliad yr RAC, cwympodd nifer y damweiniau ar gyfartaledd o 27% ar ôl i gamerâu gael eu gosod.
Dywedodd yr Athro Stephen Glaister o Sefydliad RAC fod ymchwil yn 2010 yn dangos y byddai 800 yn fwy o ddamweiniau bob blwyddyn heb gamerâu.
Roedd y Sefydliad wedi astudio 551 o gamerâu mewn naw ardal yn Lloegr.
Roedd tystiolaeth bod nifer y damweiniau wedi cynyddu gerllaw 21 camera ac mae’r Sefydliad wedi gofyn i awdurdodau lleol ystyried cael gwared ar y rheiny.