Adam Price
Mae adroddiadau papur newydd fod y cyn Aelod Seneddol Adam Price am geisio am sedd yn y Cynulliad.

Roedd disgwyl ers tro y byddai’r gwleidydd 46 oed yn cynnig ei enw am enwebiad Plaid Cymru ar gyfer ei hen sedd seneddol.

Mae gwasanaethau Media Wales bellach yn dweud fod hynny wedi ei gadarnhau, ar y funud ola’ cyn cau’r enwebiadau yr wythnos nesa’.

Ymddeoliad yn creu cyfle

Fe ddaeth y cyfle ar ôl i’r Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas gyhoeddi ei fod am ymddeol o sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, lle bu Adam Price ei hun yn AS rhwng 2001 a 2010.

Cyn iddo roi’r gorau iddi i fynd am gyfnod i Brifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau, roedd wedi cael ei weld yn arweinydd tebygol ar ei blaid.

Ond fe fyddai’n rhaid iddo gael sedd Cynulliad i wneud hynny’n bosib.