Sgwar Talybont adeg y llifogydd - dyma lle bydd y parti (Llun: Hywel Griffiths)
Fe fydd parti’n cael ei gynnal heddiw ym mhentre’ Talybont, flwyddyn wedi i lifogydd wneud difrod mawr yno ac mewn ardaloedd cyfagos.

Y nod yw cofio’r digwyddiad a diolch i bobol am eu cymorth adeg yr argyfwng pan gafodd dwsinau o dai eu heffeithio yno ac ym mhentrefi Llanbadarn, Pontrhydybeddau a Dolybont.

Roedd meysydd carafanau hefyd wedi cael eu taro yn ardal Borth.

Ar y llain gwyrdd

Mae’r parti’n cael ei drefnu ar y llain gwyrdd ynghanol y pentre’, gan griw o’r enw’r ‘Dilywiad’ sy’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol ac yn codi arian.

Fe gafodd mwy na chant o bobol eu hachub gan y gwasanaethau brys ac fe fu rhaid i gannoedd adael eu cartrefi – rhai am fisoedd – ar ôl llifogydd sydyn ar afonydd Leri, Ceulan a Rheidol.

Roedd tua 25 o gartrefi wedi cael eu difrodi’n ddrwg ym mhentre’ Talybont ac roedd y llifogydd wedi gorchuddio’r union fan lle bydd y parti heno.